Swyddog yr Iaith Gymraeg
Listed by Cardiff Met Students' Union
Applying
Application deadline: Fri 16 Mar 2018 17:00
I wneud cais, anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol i Hannah Reilly
hareilly@cardiffmet.ac.uk
Salary
Sylwch na fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dal statws cyflogeion gydag Undeb y Myfyrwyr ond bydd yn derbyn bwrsariaeth fel ymgymryd รข'r sefyllfa gynrychiolydd hon.
Bwrsariaeth i'w gadarnhau
Details
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am fyfyriwr angerddol a brwdfrydig sy’n siarad Cymraeg i gynrychioli siaradwyr Cymraeg Met Caerdydd. Byddant yn sicrhau bod llais y myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn cael ei glywed ac yn creu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i dathlu. Byddant yn rhan o dîm a fydd yn cynnwys saith swyddog rhan-amser, byddant yn adrodd i Lywydd Undeb y Myfyrwyr ac yn cydweithio’n agos â’r Is-lywydd, Cynrychiolwyr Ysgolion a staff UM
Bydd Swyddog yr Iaith Gymraeg yn gyfrifol am gynrychioli diddordebau’r myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ym Met Caerdydd, o fewn strwythurau Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, lle y bo’n briodol.
Cyfrifoldebau:
- Fel cynrychiolydd ar ran myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, byddwch yn cyflwyno safbwyntiau’r myfyrwyr i drafodaethau, yn cyfathrebu datblygiadau trwy strwythur cynrychiolydd y myfyrwyr ac i Undeb y Myfyrwyr.
- Fel cynrychiolydd ar ran myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, byddwch yn defnyddio eich mentergarwch i adnabod cyfleoedd newydd i siaradwyr Cymraeg ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr ac i hwyluso cyfle cyfartal mewn perthynas â gwasanaethau presennol trwy gydol taith y myfyriwr.
- Byddwch yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas y Gymraeg i gynnig cymuned i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar draws y Brifysgol ac yn codi proffil y gymdeithas a’r cyfleoedd i ymgysylltu.
- Trwy ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag Uned y Gymraeg, byddwch yn gwella sianeli cyfathrebu ac adborth rhwng myfyrwyr, yr adran ac Undeb y Myfyrwyr.
- Ffurfio perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chynrychiolwyr y myfyrwyr a gwneud defnydd effeithiol o’r strwythur cynrychiolwyr myfyrwyr er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu cynrychioli ac yn ymwybodol o faterion sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.