PTO Blogs - Welsh Officer / Swyddog Gymraeg

My experience as the Welsh Officer / Swyddog Gymraeg so far and the events that I have planned.

PTOBlogs
No ratings yet. Log in to rate.

 

Blog Swyddog yr Iaith Gymraeg

Croeso i Brifysgol Metropolitan Caerdydd! Dyma fi, Sara Patterson – eich Swyddog yr Iaith Gymraeg. Dyma ychydig o wybodaeth am fy hun:

  • Rydw i’n fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn sy’n astudio Bsc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, ar yn Rep ar gyfer y cwrs.
  • Dwi o bentref bach yng Ngorllewin Cymru o’r enw Ffostrasol (ger Llandysul).
  • Rwy’n chwarae hoci i dîm cyntaf y Brifysgol, ac yn chwarae i glwb Cardiff & Met ar benwythnosau.
  • Rydw i’n Gadeirydd i GymGym Met Caerdydd.
  • Os gai unrhyw amser rhydd, rwy’n hoffi cwrdd gyda fy ffrindiau am goffi a chacen – sydd ddim yn digwydd yn aml iawn ar hyn o bryd!

Y rhan cyntaf o’r swydd oedd mynychu wythnos ymarferol, er mwyn cael blas ar y swydd ac i ddod i adnabod gweddill y staff. Yn anffodus, nid oeddwn wedi gallu mynychu’r wythnos hon gan fy mod allan ym Mhatagonia gyda’r Brifysgol – ond roedd Amy (Llywydd yr Undeb Myfyrwyr) wedi sicrhau fy mod wedi dal fyny gyda phopeth!

Felly, Wythnos y Glas – wythnos prysur iawn i ni, ac i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Fel swyddog rhan amser, cawsom ddyletswyddau i sicrhau fod y newid yma o symud o adref i Neuaddau Preswyl/y Brifysgol yn un boddhaol. Y prif ddigwyddiad fwyaf y cawsom oedd Ffair y Glas yn NIAC. Cyfle i fusnesau lleol ddod i hysbysebu eu hun, ac yn gyfle i fyfyrwyr cofrestru ar gyfer clybiau chwaraeon a chymdeithasau. Yn sicr, y Dominos a’r McFlurry’s am ddim oedd y peth gorau! Roeddwn i wedi gorfod torri fy hun yn 3 rhan ar gyfer y diwrnod yma, gan fy mod yn helpu ar dri gwahanol stondin: yr Undeb Myfyrwyr, y Gymdeithas Gymraeg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddech mwy na thebyg wedi fy ngweld yn fy nghrys glas gyda ‘SU’ arno o gwmpas y stondinau Cymraeg, gan geisio dal y siaradwyr Cymraeg er mwyn cofrestru ar gyfer y Gymdeithas Gymraeg. Roeddwn yn ffodus iawn o allu cael cymorth myfyrwyr yr ail flwyddyn a phwyllgor y Gymdeithas er mwyn rhedeg y stondin drwy gydol y dydd hefyd – bydden wedi methu fod ym mhobman! Ar ran y Coleg Cymraeg, roeddem yn ceisio perswadio’r myfyrwyr i astudio rhai modiwlau yng Nghymraeg, boed ar gampws Cyncoed neu Llandaff – mae ysgoloriaethau ar gael hefyd! Os oes gennych fwy o gwestiynau am hyn, cysylltwch â mi neu Daniel Tiplady. Cawom wledd o fwyd yn y Ginio VIP, gan cael cyfle i gwrdd a’r Deon a’r pobl pwysig sy’n rhedeg ein brifysgol.

Yr ail brif ddigwyddiad yn ystod yr wythnos yma oedd MetFest ar gampws Llandaff. Er nad oeddem yn ein topiau glas, roeddem yno er mwyn ddod i adnabod myfyrwyr newydd, cymryd rhan yn y gweithgareddau gwahanol a mwynhau! I ddechrau’r diwrnod, roedd y swyddogion fwyaf dewr wedi mentro ar y reid ffair – rhaid dweud, ar ôl bod arno ddwywaith, roedd bola fi’n troi! Am weddill y diwrnod, wnes i fwynhau cael paent wyneb a glityr, y disgo tawel, gwrando ar y gerddoriaeth/bandiau byw a gwylio Mamma Mia a’r Greatest Showman yn y sinema awyr agored!

Yr wythnos ganlynol, roeddem ni fel GymGym Met Caerdydd wedi trefnu digwyddiad/sosial, gan orffen yn Walkabout erbyn yr hwyr. Braf oedd gweld cymaint o fyfyrwyr newydd – o wahanol ysgolion y brifysgol, e.e. Ysgol Chwaraeon, Busnes, Addysg a Chelf. Cadwch lygad mas ar gyfer y digwyddiad nesaf!

 

Welsh Officer Blog

Welcome to Cardiff Metropolitan University! I’m Sara Patterson – your Welsh Officer for this year. Here’s some information about me:

  • I’m a third-year student studying Bsc (Hon) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (basically Sports and PE), and I am a course Rep.
  • I’m from a little village in West Wales called Ffostrasol (by Llandysul).
  • I play hockey for the university first team, and for Cardiff & Met on weekends.
  • I am the Chairlady for the Welsh Society.
  • If I get any free time, I like to meet up with my friends for a coffee and cake – which doesn’t happen often!

The first part of the role included attending a training week, where we could meet all the SU staff for the upcoming year. Unfortunately, I was unable to attend as I was away in Patagonia on a university trip – but Amy (SU President) made sure I caught up with everything very quick!

Freshers Week – a very busy week for us and to all the first-year students. As a part-time officer, we received duties to ensure that the transition of moving from home into halls was a positive experience, and to make everyone feel welcome. The first main event was Freshers Fayre at NIAC. An opportunity for local businesses to promote themselves, and a chance to sign up for any societies or sports clubs. The best stall was probably the free Domino’s or McFlurry’s! I had to tear myself into 3 parts during this day, as I was representing the SU, the Welsh Society and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol (International Welsh Collages). You most probably saw me in my blue ‘SU’ top around the welsh stalls, as I wanted as many welsh speakers to sign up to our society as possible. I’m very thankful for the second years and committee for their help during the day – I couldn’t have done it without you! For the Coleg Cymraeg, I was advising the welsh speakers to study some modules in welsh – and that you could get a scholarship for doing so! If you’ve got any questions, message me or Daniel Tiplady. During lunchtime, we had a feast in the VIP lunch, where we had a chance to introduce ourselves to the Dean and important staff that runs our university.

The second main event was MetFest on Llandaff campus. Although we weren’t in our blue tops, we were there to include all the students, and to encourage them to take part in the various activities arranged throughout the day. To start the day, the brave members of staff ventured on the fair ride – it was fair to say my tummy was turning after going on twice! For the duration of the day, I enjoyed having face paint and glitter, attending the silent disco, listening to the music and live bands and watching Mamma Mia and the Greatest Showman in the outside cinema.

The following week, us as a Welsh Society organised an event/social, which ended up in Walkabout. It was nice seeing so many new students attending, from different schools within the university. Fair to say it was a very good night! Stay tuned for the next event!

Comments