Applying
Application deadline: Thu 10 Jul 2014
For further details and an application form, please contact 02920 441 372 or visit http://www.artswales.org.uk/about-us/jobs.
I gael rhagor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch 02920 441 372 neu ewch i http://www.artswales.org.uk/about-us/jobs.
Details
Working as one of three Team Co-ordinators within a finance team of six staff, this role will be responsible for the processing of monthly payroll for around 80 employees, administration of the Council’s interest free loan schemes and general accounting duties.
Main Responsibilities (but not limited to:)
Payroll and pensions:
-
Administers, maintains, processes and prepares pay for staff, ensuring alignment with HR records, providing:
-
Monthly journals, reconciliations and reports
-
The accurate and timely submission of data and information to HM Revenue Customs and pension administrators
-
Year-end reconciliations and reports
-
Advice and information to staff
Loans Scheme:
-
Administers, reviews and processes the financial transactions of loans, including credit checking, loan processing, direct debit set-up and collections, and liaison with galleries and loan applicants. Raising quarterly sales invoices to galleries
Credit control:
-
Monitors loans ledger balances ensuring timely action in respect of unpaid items. This includes the provision of monthly reports and dealing with debtors orally and in writing, resolving issues as necessary
Requirements – (Person Specification)
Essential:
-
At least 2 years experience of administering all aspects of payroll in a similar environment
-
Strong Microsoft Excel skills
-
Confidence to advise on any payroll issues including updates and legislation changes
-
Methodical, well organised with close attention to detail
-
Ability to work on own initiative and work effectively under pressure to tight deadlines
-
Knowledge of computerised payroll and finance packages
Desirable:
-
Capable of keeping up with new policies and initiatives and suggesting improvements, keen to learn
-
Fluency in Welsh (both written and spoken)
-
Knowledge of Iris Earnie IQ
-
Knowledge of Sunsystems
-
An interest in the arts, especially in Wales
Our benefits include flexible working hours/pattern, generous holidays and pension scheme. We work in both English and Welsh.
Gan weithio fel un o dri Chydlynydd Tîm mewn tîm cyllid â chwech aelod o staff, bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am brosesu’r gyflogres fisol ar gyfer tua 80 o gyflogeion, gweinyddu cynlluniau benthyciadau di-log y Cyngor, a chyflawni dyletswyddau cyfrifeg cyffredinol.
Y Prif Gyfrifoldebau (nid yw’r rhestr yn hollol gynhwysfawr):
Y Gyflogres a Phensiynau:
-
Gweinyddu, cynnal, prosesu a pharatoi cyflogau’r staff, gan eu hunioni â’r cofnodion AD, darparu:
-
Paratoi dyddlyfrau, datganiadau ac adroddiadau misol
-
Cyflwyno data a gwybodaeth gywir ac amserol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r gweinyddwyr pensiynau
-
Paratoi datganiadau cysoni ac adroddiadau diwedd blwyddyn
-
Rhoi cyngor a gwybodaeth i’r staff
Y Cynllun Benthyciadau:
-
Gweinyddu, adolygu a phrosesu trafodion ariannol mewn perthynas â’r benthyciadau gan gynnwys cyflawni archwiliadau credyd, prosesu’r benthyciadau, trefnu a chasglu debydau uniongyrchol a chydweithio â’r orielau a’r bobl sy’n ymgeisio am fenthyciadau. Codi archebion gwerthiant chwarterol ar gyfer orielau
Rheoli credyd:
-
Monitro mantolenni’r priflyfr benthyciadau, gan sicrhau y cymerir camau amserol mewn perthynas ag eitemau na thawyd. Mae hyn yn cynnwys darparu adroddiadau misol ac ymdrin â dyledwyr ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddatrys problemau fel y bo angen.
Y Gofynion – (Manyleb y Person)
Hanfodol:
-
O leiaf 2 flynedd o brofiad o weinyddu pob agwedd ar y gyflogres mewn amgylchedd tebyg
-
Sgiliau Microsoft Excel cadarn
-
Yr hyder i gynghori ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r gyflogres, gan gynnwys diweddariadau a newidiadau mewn deddfwriaeth
-
Person trefnus sy’n gallu rhoi sylw da i fanion
-
Y gallu i gyd-dynnu mewn tîm
-
Y gallu i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun, ac i weithio’n effeithiol o dan bwysau ac amserlenni tynn
-
Gwybodaeth am becynnau cyflogres a chyllid cyfrifiadurol
Dymunol:
-
Y gallu i gadw i fyny â pholisïau a mentrau newydd ac awgrymu gwelliannau iddynt, yr awydd i ddysgu
-
Yn rhugl yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar)
-
Gwybodaeth am Iris Earnie IQ
-
Gwybodaeth am Sunsystems
-
Diddordeb yn y celfyddydau, yn enwedig yng Nghymru
Ymhlith ein buddion mae oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Rydyn ni’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.