Cysylltu ymchwil cardiofasgwlaidd clinigol ac iechyd cyhoeddus
Siaradwyr:
Dr Maria Kearney, Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd - Bydd Dr Kearney yn mynd a ni drwy ei gwaith ymchwil ynglyn â chyplu cardiofasgwlaidd drwy heneiddio a gorbwysedd, a’i gwaith ymgysylltu cyhoeddus.
Dr Barry McDonnell, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Gardiofasgwlaidd, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd - Bydd Dr McDonnell yn trafod sawl astudiaeth a gynhaliwyd yn Ne Cymru, a phwysigrwydd ymchwil clinigol o ran deall y risg cardiofasgwlaidd sydd yn gysylltiedig â chleifion methiant y galon ar gymorth cylchrediad mecanyddol.
Dr Zaheer Yousef, Cynghorydd Cardiolegydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro - Bydd Dr Yousef yn archwilio persbectifau clinigwyr a chleifion a phroblemau go iawn a geir wrth drin methiant y galon gyda chymorth cylchrediad mecanyddol.
Lleoliad: Darlithfa O0.23, Ysgol Reoli Caerdydd, Llandaf
Dyddiad: Dydd Mercher 8 Mawrth 2017
Amser: 5:30pm ar gyfer dechrau am 6.00pm
I archebu eich lle AM DDIM, cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein neu e-bostio Lorraine McMullan ar LMcMullan@cardiffmet.ac.uk
|