Browse Jobs List
This vacancy is archived.

Swyddog yr Iaith Gymraeg UM

Listed by Cardiff Met Students' Union

Applying

Application deadline: Fri 06 May 2022 17:00

Details

Ydych chi’n fyfyriwr rhagweithiol ac angerddol sydd â diddordeb yn y Gymraeg a diwylliant Cymraeg? Ydych chi eisiau herio UM a’r Brifysgol mewn modd cadarnhaol i wneud mwy dros fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg? Mae UM Met Caerdydd yn chwilio am fyfyriwr hoffus a brwdfrydig a fydd yn dod â syniadau newydd i ddenu sylw myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, eu cynrychioli, a dwyn cymuned Met Caerdydd ynghyd. Bydd Swyddog yr Iaith Gymraeg UM yn gyfrifol am gynrychioli barn a diddordebau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn datblygu syniadau, prosiectau a gweithredu newydd yn UM. Bydd hefyd yn creu cysylltiadau â thîm Iaith Gymraeg y Brifysgol i ddarparu gwybodaeth a chyfeirio lle bo angen.

Bydd Swyddog yr Iaith Gymraeg UM yn ein helpu ni i yrru newid a gweithredu mentrau newydd fel rhan o dîm o Swyddogion Rhan-Amser UM, sy’n ceisio creu Met Caerdydd gwell i bob myfyriwr. Byddwch yn defnyddio eich diddordebau a’ch gwybodaeth eich hun i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lywio’r newidiadau pwysig sy’n cael eu gwneud yn y maes hwn ac yn defnyddio adborth myfyrwyr i greu ymgyrchoedd a mentrau ar gyfer myfyrwyr.

Cyflwynwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn amlinellu eich angerdd at y maes hwn a’ch cynlluniau ar gyfer y rôl i Will Fuller, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Myfyrwyr, trwy wfuller@cardiffmet.ac.uk. Rhaid ichi fod ar gael ar gyfer hyfforddiant ar 5th-11th Medi 2022.

Sylwch, ni fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus statws gweithiwr cyflogedig gydag Undeb y Myfyrwyr ond bydd yn derbyn bwrsariaeth fel gwobr am ymgymryd â’r swydd gynrychioliadol hon.

Cyfrifoldebau

  • Fel cynrychiolydd myfyrwyr Cymraeg, byddwch yn gweithio i nodi cyfleoedd newydd i ymwneud ag UM ac i ganiatáu cyfle cyfartal gyda gwasanaethau presennol trwy gydol taith y myfyrwyr.
  • Cynrychioli UM mewn cyfarfodydd a phwyllgorau perthnasol.
  • Meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol â chynrychiolwyr myfyrwyr gan wneud defnydd effeithiol o strwythur Cynrychiolwyr UM i sicrhau bod barn myfyrwyr Cymraeg yn cael eu cynrychioli a’u defnyddio mewn gwaith prosiect a gweithredu.
  • Byddwch yn gweithio i gefnogi’r GymGym er mwyn cynnig cymuned i fyfyrwyr Cymraeg ledled y Brifysgol a chodi proffil y gymdeithas a’r cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â hi.
  • Trwy ddatblygu perthnasoedd gweithio cadarnhaol ag Uned y Gymraeg, byddwch yn gwella’r sianeli cyfathrebu ac adborth rhwng myfyrwyr, yr adran ac Undeb y Myfyrwyr.
Cardiff Part time