Blog Swyddog Cymraeg UM

Helo fy enw Bo Leung a fi yw’r swyddog yr iaith Gymraeg eleni ym Met Caerdydd. Ar hyn o bryd dwi yn fy nhrydedd flwyddyn o astudio Addysg Gynradd Gyda SAC ( Statws Athro Cymwysedig). Wrth wneud gradd yn Addysg Gynradd, rhan o fy ngardd yw addysgu yn ysgolion. Mae’r cyfle o gael addysgu yn fy mamiaith yn hollbwysig i mi, ac rydw i’n gweld o’n holl bwysig addysgu cenhedlaeth newydd yr iaith Cymraeg a hybu’r iaith ar draws bob oedran, yn ysgolion ac yn y brifysgol.

No ratings yet. Log in to rate.

Helo fy enw Bo Leung a fi yw’r swyddog yr iaith Gymraeg eleni ym Met Caerdydd. Ar hyn o bryd dwi yn fy nhrydedd flwyddyn o astudio Addysg Gynradd Gyda SAC ( Statws Athro Cymwysedig). Wrth wneud gradd yn Addysg Gynradd, rhan o fy ngardd yw addysgu yn ysgolion. Mae’r cyfle o gael addysgu yn fy mamiaith yn hollbwysig i mi, ac rydw i’n gweld o’n holl bwysig addysgu cenhedlaeth newydd yr iaith Cymraeg a hybu’r iaith ar draws bob oedran, yn ysgolion ac yn y brifysgol.

 

Blwyddyn ddiwethaf mi oni’n llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O fod yn llysgennad sylwais faint o bwysig oedd cael cyfleoedd yn y Gymraeg enwedig mewn ardal fel Caerdydd sydd gan lawer mwy o amrywiaeth na Caernarfon yng Ngogledd Cymru. Felly ymgeisiais i fod yn Swyddog yr iaith Gymraeg er mwyn gwneud yn siwr bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed yn ogystal â chreu cymuned gref o Gymraeg yn y brifysgol. Gan fy mod i wedi derbyn addysg drwy gydol fy mywyd drwy’r Gymraeg, mae o’n hollbwysig i mi fod dewisiadau a phrofiadau ar gael yn y Gymraeg.

 

Fy rôl i fel swyddog yw gwneud yn siwr bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed. Os gennych chi unrhyw broblemau a ydych chi’n siarad Cymraeg gyrrwch neges, e-bost neu un rhywbeth. Dwi yma i helpu chi ac i wneud yn siwr bod problemau sydd yn benodol i fyfyrwyr Cymraeg yn cael ei godi ac yn cael ei wrando ar. Yn ogystal â helpu’r myfyrwyr, rôl fi yw hybu’r iaith Cymraeg a diwylliant Cymraeg o amgylch Met Caerdydd yng Nghyncoed a Llandaf. Os oes gan unrhyw un syniadau neu adborth i hybu Cymraeg fyswn i wrth fy modd yn derbyn eich syniadau ac ymgeisio i wneud nhw eleni.

 

Fel rhan o fy swydd rwyf wedi helpu ffurfio pwyllgor hollol newydd i'r Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym) ym met eleni, gyda thîm cryf rwyf yn gobeithio bod digon o ddiddordeb gan fyfyrwyr i ymuno ar hwyl a sbri. Mae GymGym met eleni yn gweithio’n agos gyda GymGym Brifysgol Caerdydd ac yn trefnu 'Ball' i’r ddau GymGym yn fis Ionawr (Insert link to event). Bydd yn gyfle gwych i ni gael cymuned fawr ar draws Caerdydd a ffordd arbennig i greu ffrindiau newydd.

 

Yn ddiweddar rhydem wedi cael Cinio’r Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Noson wych llawn bwyd a hwyl. Cyfle grêt i fyfyrwyr cael cymdeithasu a gwisgo’n smart efo myfyrwyr eraill a staff y brifysgol tu allan i’r brifysgol.

 

Rwyf yn gweithio’n galed i gael fwy o ymwybyddiad o’r iaith Cymraeg ar wefannau cymdeithasol y SU. Ac yn gobeithio yn y flwyddyn newydd bydd newid a bydd mwy o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio.

 

Diolch am ddarllen, edrych ymlaen at glywed unrhyw syniadau ar gyfer y Gymraeg ym met eleni.

Comments