Join to the conversation on Wales’ response to the climate emergency during ‘COP Cymru’

#Ad

No ratings yet. Log in to rate.

Students from Cardiff Metropolitan University are being encouraged to take part in a series of virtual events throughout November that will provide an opportunity for everyone in Wales to engage in important conversations about climate change.

 

With COP26 already underway in Glasgow, COP Cymru will offer people across Wales the chance to join the conversation, in a programme that includes virtual presentations and discussions involving government ministers, academics, private and public sector organisations and community groups. From 4 to 10 November, four COP26 Regional Roadshow events will be broadcast virtually, enabling the public to join discussions on topics that mirror some of the key COP26 themes. 

 

Professor Carolyn Hayles from Cardiff Metropolitan University will be launching the results of a one-year study on how resilient buildings in the UK and Wales are to meet the challenges of a changing climate, during Wales Climate Week later this month.

 

  • Energy Transition (4 November) – hosted in North Wales
  • Nature Based Solutions (6 November) – hosted in Mid Wales
  • Adaptation & Resilience (8 November) – hosted in South West Wales
  • Clean Transport (10 November) – hosted in South East Wales

 

The four roadshows will be broadcast live, and a recording will be made available via the on-demand section of the COP Cymru event platform shortly after each event.

 

The COP Cymru programme concludes with Wales Climate Week: a Wales-wide conversation on how to tackle the climate emergency, taking place online, from 22 to 26 November.

 

The five-day programme of virtual events - each day focusing on a different theme – will explore Wales’ contribution to the global challenge of combatting climate change and attempt to answer key questions, such as how nature can be used to manage climate risks and how everyone can make a contribution to achieving a net zero Wales.

 

The five days of Wales Climate Week, which will also be available as on-demand content after the event, are;

 

  • Wales and the world (22 November)
  • Energy and emissions (23 November)
  • Responding to the climate emergency (24 November)
  • Nature and climate resilience (25 November)
  • People and climate action (26 November)

 

Commenting on the upcoming events, Julie James MS, the Welsh Minister for Climate Change, said: “The climate is changing and so must Wales. 

 

“COP Cymru is an opportunity for all of us to help shape Wales’ future. The progress made so far has been commendable, with emissions in Wales falling by just over 30 per cent over the last 30 years. Many of the projects being discussed during COP Cymru have been instrumental in helping drive this change.

 

“But if we are serious about becoming a net zero nation by 2050, we need to do much more. We estimate that in order to reach the 2050 goal, we will need to cut emissions by more than 30 per cent yet again – but this time in only 10 years.

 

“Simply put, the next decade must be a decade of climate action.”

 

To find out more or sign up to the COP Cymru virtual regional roadshows or any of the Wales Climate Week events, visit the COP Cymru event platform.

 

_____

 

Mae myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau rhithwir trwy gydol mis Tachwedd a fydd yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig am y newid yn yr hinsawdd.

 

Gyda COP26 eisoes wedi dechrau yn Glasgow, bydd COP Cymru yn cynnig cyfle i bobl ledled Cymru ymuno â'r sgwrs, mewn rhaglen sy'n cynnwys cyflwyniadau rhithwir a thrafodaethau yn cynnwys gweinidogion y llywodraeth, academyddion, sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus a grwpiau cymunedol. Rhwng 4 a 10 Tachwedd, bydd pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 yn cael eu darlledu’n rhithwir, gan alluogi'r cyhoedd i ymuno â thrafodaethau ar bynciau sy'n adlewyrchu rhai o themâu allweddol COP26. 

 

Bydd yr Athro Carolyn Hayles o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio canlyniadau astudiaeth dros flwyddyn yn archwilio sut fydd adeiladau gwydn yn y DU ac yng Nghymru yn bodloni heriau hinsawdd newidiol, yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Mae’r rhestr lawn o ddigwyddiadau sioe deithiol yn cynnwys;

 

  • Trawsnewid Ynni (4 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng ngogledd Cymru
  • Atebion ar sail Natur (6 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng nghanolbarth Cymru
  • Addasu a Gwytnwch (8 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-orllewin Cymru
  • Trafnidiaeth Lân (10 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-ddwyrain Cymru

 

Bydd y pedair sioe deithiol yn cael eu darlledu'n fyw, a bydd recordiad ar gael yn adran ar alw llwyfan digwyddiadau COP Cymru yn fuan ar ôl bob digwyddiad.

 

Bydd rhaglen COP Cymru yn dod i ben gydag Wythnos Hinsawdd Cymru: sgwrs ledled Cymru ynghylch sut i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a fydd yn cael ei chynnal ar-lein, rhwng 22 a 26 Tachwedd.

 

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau rhithwir dros bum diwrnod - gyda phob diwrnod yn canolbwyntio ar thema wahanol - yn archwilio cyfraniad Cymru at yr her fyd-eang o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac yn ceisio ateb cwestiynau allweddol, fel sut allwn ddefnyddio natur i reoli risgiau i'r hinsawdd a sut all bawb gyfrannu at gyflawni Cymru sero-net.

 

Bydd pob diwrnod o’r Wythnos Hinsawdd Cymru hefyd ar gael ar alw ar ôl pob digwyddiad. Y pum thema yw;

 

  • Cymru a'r byd (22 Tachwedd)
  • Ynni ac allyriadau (23 Tachwedd)
  • Ymateb i'r argyfwng hinsawdd (24 Tachwedd)
  • Natur a gwytnwch hinsawdd (25 Tachwedd)
  • Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd (26 Tachwedd)

 

Wrth sôn am y digwyddiadau sydd ar y gweill, dywedodd Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru: 

 

“Mae'r hinsawdd yn newid, ac felly rhaid i Gymru newid hefyd. 

 

“Mae COP Cymru yn gyfle i bob un ohonom helpu i lywio dyfodol Cymru. Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wedi bod yn glodwiw, gydag allyriadau yng Nghymru yn lleihau 30 y cant dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae nifer o’r prosiectau sy’n cael eu trafod yn ystod COP Cymru wedi bod yn allweddol wrth helpu i yrru’r newid hwn.

 

“Yn syml, mae’n rhaid i’r degawd nesaf fod yn ddegawd o weithredu dros yr hinsawdd.”

 

Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer sioeau teithiol rhanbarthol rhithwir COP Cymru, neu unrhyw un o ddigwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru, ewch i lwyfan digwyddiadau COP Cymru.

Comments